Rhif y Ddeiseb: P-06-1470

Teitl y ddeiseb: Cael gwared ar y Cynllun Cymru Wrth-hiliol, sy’n gynllun hiliol a hurt

Geiriad y ddeiseb:  Oeddech chi’n gwybod bod Llywodraeth Cymru wedi ymgynghori ar Gynllun Gweithredu Cydraddoldeb Hiliol drafft yn 2020/21? Ailenwyd yn Gynllun Cymru Gwrth-hiliol? Na? DIM OND 500 o bobl a ymatebodd i'r ymgynghoriad hwn. Bwriad y “Cynllun” hwn yw newid polisïau’r Llywodraeth er mwyn bodloni cwotâu ‘ecwiti’. Nid cydraddoldeb. Credaf fod hyn yn wahaniaethol ac yn hiliol ac yn seiliedig ar DDAMCANIAETH Hil Beirniadol (neu ‘Critical Race Theory’). Yn ogystal ag ar brofiadau personol anecdotaidd. Nid ffeithiau. Mae’n rhybuddio am ganlyniadau dull gweithredu lliwddal. Mae angen cael gwared ar hyn ar unwaith.

Yn ôl Llywodraeth Cymru: “Drwy ymgysylltu â chymunedau a dadansoddi’r ymatebion i’n hymgynghoriad, daeth yn amlwg bod angen dull gweithredu gwrth-hiliol”.

Yn fy marn i, mae hyn yn hyrwyddo gwahaniaethu a hiliaeth, yn gwastraffu ein harian, a bydd yn cael effaith ar Gymru gyfan. Wrth gyflwyno’r Cynllun Cymru Gwrth-hiliol, rhybuddir, “yn aml, tybir mai ‘darparu’r un peth i bawb’ fydd y gwasanaeth mwyaf priodol. Ond mewn gwirionedd, drwy ystyried gwahaniaethau pobl … y ceir gwasanaeth mwy sensitif, hygyrch ac effeithiol. Yn aml mae’r dull gweithredu lliwddall yn golygu bod pobl ethnig leiafrifol yn ei chael hi’n anodd cael swyddi, camu ymlaen, neu gael gwasanaethau sy’n addas i’w hanghenion.

I ni, mae gwrth-hiliaeth yn ymwneud â mynd ati’n rhagweithiol i nodi a dileu polisïau, systemau, strwythurau a phrosesau sy’n arwain at ganlyniadau gwahanol iawn i grwpiau ethnig lleiafrifol.”

Mae hyn yn warthus ac mae angen ei ddileu.

https://www.llyw.cymru/cyflwyniad-ir-cynllun-cymru-wrth-hiliol-html

 


1.        Y cefndir

Yn gynnar yn 2020, dechreuodd Llywodraeth Cymru weithio ar gynllun gweithredu ynghylch cydraddoldeb hiliol, yn dilyn galwadau gan Fforwm Hil Cymru, a sefydliadau eraill ar lawr gwlad. Cafodd y pandemig effaith anghymesur ar bobl Ddu, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol. Yn ogystal, condemniwyd llofruddiaeth George Floyd gan bobl ledled y byd, a gwelwyd twf ym mudiad Black Lives Matter. Taflodd y digwyddiadau hyn oleuni ar yr hiliaeth systemig a wynebir gan gymunedau ethnig lleiafrifol, gan arwain at gyflymu’r broses o ddatblygu cynllun gweithredu.

Gwnaeth Mark Drakeford, y Prif Weinidog ar y pryd, sefydlu Grŵp Cynghori ar COVID-19 a Phobl Ddu, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol, er mwyn archwilio effaith y pandemig. Yna, sefydlwyd grŵp llywio i fwrw ymlaen â'i argymhellion ac i ddatblygu Cynllun Gweithredu Cydraddoldeb Hiliol i Gymru, a hynny o dan gadeiryddiaeth yr Athro Emmanuel Ogbonna ac Ysgrifennydd Parhaol Llywodraeth Cymru.

Cafodd  y Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol(ArWAP) ei gyhoeddi ym mis Mehefin 2022. Nod y Cynllun yw “sicrhau newid mesuradwy i fywydau pobl ethnig leiafrifol drwy fynd i'r afael â hiliaeth.”

Ers hynny, mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi adroddiad cynnydd ym mis Rhagfyr 2023, ynghyd â chynllun wedi'i ddiweddaru ym mis Tachwedd 2024.

1.1.            Yr ymgynghoriad

Mewn gohebiaeth a anfonwyd gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol at y Pwyllgor Deisebau, dyddiedig 13 Rhagfyr 2024, codwyd cwestiynau ynghylch honiad y deisebwyr mai dim ond 500 o bobl oedd wedi ymateb i’r ymgynghoriad. Nododd yr Ysgrifennydd Cabinet:

Mewn gwirionedd, roedd yr ymateb yn llawer helaethach, ac yn tynnu ar dystiolaeth ac adborth gan ystod eang o randdeiliaid. Roedd y rhain yn cynnwys sefydliadau yn y sector cyhoeddus a'r trydydd sector, grwpiau cymunedol, ac unigolion sydd wedi profi effaith hiliaeth yn uniongyrchol.

Cyhoeddwyd Cynllun Gweithredu Cydraddoldeb Hiliol drafft ym mis Mawrth 2021. Roedd y cynllun drafft yn cynnwys camau gweithredu a nodau ar draws 13 maes polisi, ynghyd â nifer o nodau cyffredinol. Wrth wneud datganiad ynghylch cyhoeddi’r Cynllun, dywedodd Jane Hutt AS, y Dirprwy Weinidog a’r Prif Chwip ar y pryd:

Mae nodweddion nodedig eraill yn y cynllun hwn sy'n ei osod ar wahân i gynlluniau eraill o'r math hwn.  Mae'r egwyddor o gyd-greu wedi bod yn hanfodol i ddatblygu'r cynllun gweithredu cydraddoldeb hiliol.  Mae cynnwys y cynllun wedi'i wreiddio ym mhrofiad byw pobl dduon, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig yng Nghymru.  Mae tua 2,000 o unigolion wedi rhannu eu barn ar yr hyn y dylai'r cynllun ei gynnwys ac ni fyddai'r cynllun wedi bod yn bosibl heb eu cyfraniadau nhw.

Daeth ymgynghoriad ar y cynllun gweithredu drafft i ben ym mis Gorffennaf 2021, a chafwyd 330 o ymatebion gan fwy na 1,992 o unigolion i gyd. Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ddadansoddiad o 255 o’r 330 o ymatebion a ddaeth i law. Dywedodd fod “66 o ymatebion wedi’u categoreiddio fel ymatebion a oedd naill ai’n cynnwys sylwadau hiliol / sarhaus neu a oedd yn canolbwyntio ar faterion nad oeddent yn ymwneud â chynnwys yr ymgynghoriad hwn”. Mae’r themâu allweddol wedi’u nodi ar dudalennau 6-7, gan gynnwys y canlynol:

Roedd tua 90 y cant o’r ymatebion yn cefnogi uchelgais y Cynllun a nodwyd yn ei weledigaeth, ei ddiben a’i werthoedd. Fodd bynnag, mynegodd 89 y cant o’r ymatebion amheuon ynghylch gallu’r Cynllun, yn y ffurf yr ymgynghorwyd arno, i lwyddo i gyflawni’r weledigaeth honno. Cyfeiriwyd at amrywiaeth o ffactorau i gefnogi’r amheuon hyn. Roedd y rhain yn cynnwys: maint y Cynllun; camau gweithredu coll; cyfeirio annigonol, neu ddim cyfeirio, at fonitro, gwerthuso a diffyg atebolrwydd.

Yn yr ohebiaeth a anfonwyd gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol at y Pwyllgor Deisebau, dywedodd yr Ysgrifennydd Cabinet nad yw’r cynllun yn arwain at wahaniaethu yn erbyn y boblogaeth fwyafrifol. Yn hytrach, dywedodd mai “nod y cynllun yw creu Cymru decach a mwy cynhwysol, lle mae gan bawb, waeth beth fo'u hil neu ethnigrwydd, gyfleoedd cyfartal”. Dywedodd yr Ysgrifennydd Cabinet y byddai’r cynllun, drwy fynd i’r afael ag anghydraddoldebau hiliol, yn gwneud cymunedau yn fwy gwydn ac yn “rhoi cyfle i bawb gyfrannu a llwyddo”. Dywedodd hefyd:

Mae'n gynllun angenrheidiol sy'n seiliedig ar dystiolaeth sydd wedi'i gynllunio i fynd i'r afael ag anghydraddoldeb systemig a chreu Cymru decach i bawb.  Nid yw'r camsyniadau yn y ddeiseb yn adlewyrchu gwir weledigaeth, pwrpas a gwerthoedd y cynllun.  Mae Llywodraeth Cymru yn parhau i fod yn ymrwymedig i hyrwyddo cydraddoldeb a thegwch i bawb yng Nghymru a bydd yn parhau i ymgysylltu â chymunedau i sicrhau bod y cynllun yn adlewyrchu eu profiadau a'u hanghenion.

2.     Camau gweithredu gan Senedd Cymru

Ym mis Hydref 2020, mynegodd y Senedd ei chefnogaeth parthed “yr angen am Gynllun Gweithredu Cydraddoldeb Hiliol ar gyfer Cymru i fynd i’r afael ag anghydraddoldeb strwythurol a systemig, ac i hybu cyfleoedd i bobl dduon ac Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig yng Nghymru”.

Rhwng mis Mawrth 2023 a mis Chwefror 2024, cynhaliodd y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol ymchwiliad i’r broses o weithredu’r Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol. Daeth y Pwyllgor i'r casgliad bod angen gwneud rhagor o waith os yw Llywodraeth Cymru am gyflawni ei gweledigaeth ynghylch creu Cymru wrth-hiliol. Roedd sefydliadau a rannodd eu safbwyntiau gyda'r Pwyllgor yn cymeradwyo gweledigaeth a chwmpas cynhwysfawr y Cynllun. Fodd bynnag, cododd y rhan fwyaf bryderon am y broses o weithredu’r cynllun a chyfradd y cynnydd sy’n cael ei wneud.

Gwneir pob ymdrech i sicrhau bod y wybodaeth yn y papur briffio hwn yn gywir adeg ei gyhoeddi. Dylai darllenwyr fod yn ymwybodol nad yw’r papurau briffio hyn o reidrwydd yn cael eu diweddaru na’u diwygio fel arall i adlewyrchu newidiadau dilynol.